Yn ddeunaw oed perfformiwyd ei waith cyntaf o bwys yn Abertawe (sioe gerdd i blant) ac yn fuan wedi hyn ymadawodd â’i gynefin hoff er mwyn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, bu Edward yn astudio cyfansoddi gyda’r cyfansoddwr enwog William Matthias (Cyfansoddwr y Frenhines) a John Harper (Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig). Bu hefyd yn astudio’r llais gyda’r perfformiwr toreithiog Kenneth Reynolds (Academi Gerdd Frenhinol). Tra’n fyfyriwr, enillodd wobr cyfansoddi’r adran am ei waith cerddorfaol Re:becca, a berfformiwyd gan gerddorfa symffonig yr adran. Wedi graddio a chwblhau diploma ôl-radd mewn Technoleg Cerddoriaeth a Recordio Sain, apwyntiwyd Edward yn Gyfarwyddwr Cerdd coleg lleol. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bu Edward yn gyfrifol am ffurfio côr eglwysig newydd gyda 120 o aelodau. Bu’r côr yn teithio’r gogledd a’r gogledd orllewin yn rheolaidd ac fe recordiwyd dau albwm a gynhyrchwyd gan Edward. Yn ogystal ffurfiodd grwp harmoni clos, a oedd hefyd yn perfformio ei weithiau ef a buont ar daith drwy’r DU ben baladr, hefyd yn yr India, Hwngari a Seland Newydd. Hyn oll tra’n hyfforddi i fod yn athro! Bu’n gyfrifol am sefydlu a datblygu adran gerdd a ddaeth yn fwyfwy prysur. Wedi pum mlynedd yno symudodd i Hampshire i goleg newydd, gan barhau i astudio cyfansoddi yng Ngholeg Cerdd Llundain, gan ennill gradd MMus.
Bu’n astudio gyda cherddorion proffesiynol toreithiog megis Laurence Roman (trefnwr Andrew Lloyd-Webber) a’r cyfansoddwr cerddoriaeth gysegredig Francis Pott. Roedd Edward yn gyfrifol am sefydlu dau gôr newydd yn Hampshire, a fu’n perfformio a recordio ei weithiau. Yn ystod ei gyfnod yn Hampshire bu Edward yn gweithio i Wasanaeth Cerdd Sirol Hampshire fel tiwtor preifat i gyw-cyfansoddwyr ifainc disglair a dderbyniodd ysgoloriaeth i astudio’r maes. Fe’i apwyntiwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Winchester, yn arweinydd y modiwlau cyfansoddi. Ynghyd â hyn, fe’i apwyntiwyd yn arholwr i fyrddau arholi Edexcel a Rhydychen/Caergrawnt ar gyfer arholiadau pellach ac uwch.
Wedi pedair blynedd llwyddiannus yn Hampshire a Llundain, gadawodd Edward ei swyddi dysgu (dros dro) er mwyn astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn cyfansoddi.
Manteisiodd ar ei ryddid a symudodd nôl i dde Cymru, lle mae’n byw ar hyn o bryd. Fe’i urddwyd (Edward Bro Gwyr) yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006 gan dynnu sylw at ei waith fel cyfansoddwr a pherfformiwr Cymreig. Yn dysgu cyfansoddi a rhoi gwersi canu fel tiwtor preifat yn ogystal, mae Edward yn darlithio yn Y Coleg Brenhinol Cerdd a Ddrama Cymru ac hefyd yn Brifysgol Caer Faddon. Yn ddiweddar fe’i apwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Siambr Bryste, swydd mae’n ymhyfrydu ynddi.
Ers 2009 mae Edward wedi bod yn vbrysur fel Cyfawyddor Cerdd a Phrif Arweinydd y cor mawr enwog, Cor Meibion Cymry Llundain. Gellir prynu cerddoriaeth Edward oddi wrth Chichester Music Press.